1. Mae tocynnau'n ddilys am flwyddyn ar ôl eu prynu. Caiff y dyddiad y daw'r tocyn rhodd i ben ei nodi arno ac ni ellir ei ddefnyddio ar ôl y dyddiad hwnnw.
  2. Ni ellir ad-dalu neu gyfnewid gwerth tocynnau rhodd am arian neu am unrhyw docynnau rhodd eraill â gwerth ariannol.
  3. Os mai'r bwriad yw prynu tocyn loteri am swm uwch na wynebwerth y tocyn(nau) rhodd, gellir talu am y gwahaniaeth â cherdyn. Os yw'n llai, yna ni ellir rhoi newid.
  4. Ni ellir defnyddio tocynnau rhodd ar y cyd ag unrhyw ymgyrchoedd hybu arbennig, tocins disgownt, cwponau neu gardiau.
  5. Ni ellir gwerthu tocynnau rhodd i unrhyw drydydd partïon heb ein cydsyniad, ac yna bydd unrhyw amodau y byddwn yn eu pennu'n berthnasol i gydsyniad o'r fath. Sut bynnag, ni chewch werthu'r Tocynnau Rhodd trwy'r rhyngrwyd heb ein cydsyniad ysgrifenedig penodol, ac mae'n rhaid ichi sicrhau'r cydsyniad hwnnw cyn eu gwerthu fel hyn. Rydym yn cadw'r hawl bob amser i wrthod caniatáu ichi werthu Tocynnau Rhodd i drydydd parti.

Gweithdrefn canslo ac ad-dalu

  • Mae gan y sawl sy'n prynu'r tocyn rhodd hawl i 'gyfnod ailfeddwl' o 14 diwrnod cyn belled â bod y tocyn rhodd yn cael ei ddychwelyd heb ei ddefnyddio a gyda'r dderbynneb wreiddiol o fewn 14 diwrnod o'i brynu, ac wedi hynny caiff ei ad-dalu'n llawn. Os oes angen ichi ddychwelyd tocyn rhodd, yna anfonwch e-bost i [email protected]